Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Mai 2017
Amser: 09.03 -
10.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4138
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Luke Collins- Hayes, Deffo Zoe Pallenson, Deffo Cathie Robins-Talbot, Deffo Helen Robins-Talbot, Deffo |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 513KB) Gweld fel HTML (204KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Mynegodd Neil McEvoy AC bryderon ynghylch neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan Carl Sargeant AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant) yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 9 Mai 2017. Dywedodd y Cadeirydd y gall y Pwyllgor ddychwelyd at y mater hwn pan fydd y ddeiseb dan sylw (P-05-751 Cydnabod Achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant) yn cael ei thrafod y tro nesaf.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb y deisebwyr i'r wybodaeth sydd wedi dod i law cyn penderfynu ar unrhyw gamau pellach i'w cymryd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i rannu'r sylwadau a wnaed gan y deisebydd ac i ofyn am ymateb pellach iddynt.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i roi gwybod iddynt am y ddeiseb a'r ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith; ac
· aros i glywed barn y deisebydd cyn penderfynu ar gamau gweithredu priodol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· gwahodd y deisebydd i roi tystiolaeth ar lafar i'r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac
· ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl ar y ddeiseb hon cyn toriad yr haf.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i rannu sylwadau a wnaed gan y deisebydd a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yn 2017-18 yn cael ei ddefnyddio.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu ar unrhyw gamau priodol i'w cymryd.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i dynnu sylw at y pryderon a chynigion ar gyfer gwella a wnaed gan y deisebydd a Hafal, ac i ofyn am ragor o wybodaeth am y cynlluniau i wella ymatebolrwydd gwasanaethau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd nid yw'n bosibl ei dwyn ymlaen yn absenoldeb cyswllt â'r deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb. Oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r Pwyllgor Deisebau blaenorol glywed tystiolaeth ar y mater hwn, cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn barn bresennol y Llywodraeth ar y materion a godwyd gan y deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y ddeiseb ochr yn ochr â'r ddeiseb gysylltiedig, P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn ystod Tymor yr Ysgol, yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith wedi cadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r broses y tu ôl i'r gwaith o ail-ddatblygu'r Gyfnewidfa Lo.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i rannu sylwadau a wnaed gan y deisebwyr a Nick Ramsay AC, a gofyn pam nad yw ymrwymiadau blaenorol i arwynebu'r A40 heb eu gweithredu eto a gofyn am amserlen ar gyfer y gwelliannau hyn.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebydd ar yr ohebiaeth a gafwyd hyd yma, ac i ysgrifennu at Stagecoach i ofyn am wybodaeth am ganlyniadau'r arolwg a gynhaliwyd ar y gwasanaeth yn gynharach yn 2017.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau gweithredu a ganlyn:
· Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn pa gynnydd mewn gorchudd coed mewn ardaloedd trefol sydd wedi'i gyflawni yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac a yw rhywogaethau eraill o blanhigion hefyd yn cael eu defnyddio at ddiben tebyg; a
· gofyn barn y deisebwyr ar yr ymateb a gafwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· nodi boddhad eang y deisebydd, gan gytuno i gau'r ddeiseb ac i rannu sylwadau ychwanegol y deisebydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am gyhoeddiad ar y camau gweithredu nesaf gan Lywodraeth Cymru yn dilyn yr ymgynghoriad, fel y cytunwyd yn flaenorol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn eu barn ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb.
Bu Cathie Robins-Talbot, Helen Robins-Talbot, Luke Collins-Hayes a Zoe Pallenson o Deffo! yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i roi gwybod i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am unrhyw ddeisebau yn y dyfodol sy'n berthnasol i'w waith ynghylch y Papur Gwyn ar Fil y Diddymu Mawr.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y camau nesaf i'w cymryd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i lunio adroddiad i'r Cynulliad ar y dystiolaeth a gafwyd.